Rydym wedi ymrwymo i Bolisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy’n golygu y bydd pawb sy’n gweithio i ni yn cael eu trin yn gyfartal, heb wahaniaethu ar sail oed, hil, credo, lliw, cenedligrwydd na tharddiad ethnig, rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, cyfrifoldeb am blant neu ddibynyddion, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred.
Croesewir ceisiadau gan bob adran o’r gymuned.
Un o’r ffyrdd yr ydym yn dangos bod y polisi’n cael ei weithredu yw trwy gasglu gwybodaeth gan bob ymgeisydd am swydd. Llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd gyda’ch cais: bydd yn cael ei gwahanu oddi wrth eich cais pan fyddwn yn ei dderbyn. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro ac i’n helpu ni i benderfynu a ydym yn gallu cynnig cyfweliad i chi cyn unol â’n hymrwymiad i’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, bydd yn cael ei chadw mewn lleoliad diogel, ni fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniad fydd yn effeithio arnoch chi, ac ni chaiff ei chadw ar eich ffeil bersonol.
Mae pob cwestiwn yn ddewisol. Nid oes rhaid i chi ateb unrhyw un o’r cwestiynau ond po fwyaf o wybodaeth y byddwch yn ei rhoi, y mwyaf effeithiol y bydd y monitro.
Diolch am eich cymorth.