Noder, nid oes gweithred ‘arbed’ ar y ffurflen gais. Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth a’r dogfennau canlynol wrth law cyn i chi ddechrau. Gellir gweld rhagolwg o’r cwestiynau yn y Cwestiynau Cyffredin.
Cyn i chi ddechrau bydd angen:
- Lleoliad addas, a lle ar gyfer y Pecyn Enfawr (650-700 metr sgwâr).
- Mae angen lle i storio nifer fawr o eitemau nes y dyddiad gosod a chyfeiriad dosbarthu addas.
(i)Cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin am fanylion llawn a lluniau’r deunyddiau y bydd angen i chi eu storio. Byddwch yn gyfrifol am dderbyn nifer fawr o eitemau fydd yn cael eu dosbarthu. Ni ellir dosbarthu i leoliad di-griw; mae’n rhaid i aelod o staff neu wirfoddolwr fod yn bresennol. Dylai fod criw yn eich cyfeiriad dosbarthu yn ystod oriau gwaith o ddydd Llun i ddydd Gwener, dylai fod lle i storio eitemau mwy dros dro, a dylai fod yn agos iawn at safle’r ardd. Gall fod yn gyfeiriad preifat os ydych yn dymuno.
- Cyfeiriad a chod post llawn y safle arfaethedig.
- Enwau a manylion cyswllt dau berson gwahanol fydd yn gysylltiedig â chyflwyno’r prosiect y gall Cadwch Gymru’n Daclus gysylltu â nhw.
- What3words ar gyfer y safle arfaethedig what3words /// The simplest way to talk about location.
- Dau ffotograff diweddar, ac os yn bosibl, fideo, yn dangos y safle arfaethedig.
- Map o’r safle yn nodi ble bydd eitemau’r pecyn yn cael eu lleoli.
- Prawf o brydles pum mlynedd o leiaf ar gyfer y safle arfaethedig, neu brawf o ganiatâd perchennog y tir ar gyfer yr ardd newydd am bum mlynedd yn ogystal ag enw a manylion cyswllt perchennog y tir.
(i)Bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth sydd yn datgan yn glir y bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel ased cymunedol am bum mlynedd o leiaf.
- Os yw’r tir o dan berchnogaeth breifat, nid yw’n gymwys fel arfer – ond ceir eithriadau, e.e. prydles hirdymor i sefydliad cymunedol, neu yn y broses o gael ei brynu gan sefydliad cymwys
(i)Os yw eich safle o dan berchnogaeth breifat, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig gan berchennog y tir o union fanylion y trefniant gyda’r ymgeisydd i’r panel eu hystyried.
- Amlinelliad byr o bwy fydd yn gysylltiedig ac yn cael budd o’r pecyn (yn cynnwys amcangyfrif o niferoedd), os bydd y grŵp yn llwyddiannus.
- Byddai’n fuddiol iawn i’ch cais pe byddech yn gallu dangos sut byddwch yn cynnwys cymunedau difreintiedig. – gweler Cwestiynau Cyffredin.
- Y niferoedd bras fydd yn gallu mwynhau natur o ganlyniad i’r prosiect dros y pum mlynedd nesaf – e.e. defnyddiwch niferoedd ymwelwyr/defnyddwyr y safle, ystadegau poblogaeth lleol, maint ysgolion ac ati.
- Ymrwymiad bod gennych o leiaf pum gwirfoddolwr fydd yn gallu gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i osod yr ardd.
- Cofiwch, bydd angen cyfnod gosod hir ar y Pecyn Enfawr. Ni allwn atal na gohirio’r cyfnod gosod yn ystod gwyliau’r haf.
Ar gyfer Pecynnau Enfawr bydd hefyd angen
- Copi o’ch erthyglau cymdeithasu neu gyfansoddiad. Ar gyfer elusennau cofrestredig, dim ond eich rhif cofrestru elusen fydd ei angen arnom.
- Rhestrwch yr holl sefydliadau lleol, ysgolion ac ati yn ogystal â’ch staff / gwirfoddolwyr eich hun sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y gwaith o osod yr ardd a’i chynnal a’i chadw yn y dyfodol a’i defnydd hirdymor. Lanlwythwch dystiolaeth o’r cymorth gan y grwpiau hyn. (e.e. llythyrau cefnogaeth, fideos neu straeon).
- Gwybodaeth am werth natur presennol y safle a thystiolaeth na fydd y pecyn yn gwneud unrhyw niwed i fioamrywiaeth gan arbenigwr cymwys addas (ee arolwg ecolegol/cynefin, datganiad gan ecolegydd neu elusen bywyd gwyllt lleol ee Ymddiriedolaeth Natur , Plantlife). Os bydd angen cymorth arnoch gyda hyn, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’ch swyddog bioamrywiaeth lleol i gael sylwadau ar addasrwydd y safle – mae eu manylion ar gael yn: Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru – Lleol i Chi (biodiversitywales.org.uk).
- Gwybodaeth am unrhyw fannau gwyrdd gerllaw
- Gwybodaeth am unrhyw gyllid blaenorol a dderbyniwyd ar gyfer gweithgareddau natur
- Ymrwymiad bod gennych o leiaf 10 o wirfoddolwyr fydd yn gallu gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i osod yr ardd.
- Copi o’ch polisi yswiriant presennol.
Pan fyddwch yn barod i gyflwyno eich cais:
Gwnewch yn siŵr bod yr holl flychau priodol wedi cael eu ticio, yn cynnwys yr un sy’n ein galluogi ni i rannu eich manylion gyda’r panel er mwyn gallu prosesu eich cais.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, anfonwch ebost nature@keepwalestidy.cymru