Noder, nid oes gweithred ‘arbed’ ar y ffurflen gais. Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth a’r dogfennau canlynol wrth law cyn i chi ddechrau. Gellir gweld rhagolwg o’r cwestiynau yn y Cwestiynau Cyffredin.
Cyn i chi ddechrau bydd angen:
- Lleoliad addas, a lle, ar gyfer y pecyn.
- Gofod angenrheidiol i storio eitemau hyd at y dyddiad gosod a chyfeiriad dosbarthu addas.
(i)Cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin am fanylion llawn a lluniau’r deunyddiau y bydd angen i chi eu storio. Mae’n rhaid i chi roi cyfeiriad sydd â digon o le. Ni ellir dosbarthu i leoliad heb rywun yno, a chi fydd yn gyfrifol am dderbyn nifer fawr o eitemau fydd yn cael eu dosbarthu. Dylai fod rhywun yn eich cyfeiriad dosbarthu yn ystod oriau gwaith o ddydd Llun i ddydd Gwener, dylai fod lle yno i storio’r holl eitemau am gyfnod o dri mis nes bod y prosiect wedi ei gwblhau, yn cynnwys storio eitemau mawr, ac mae’n rhaid iddo fod yn agos at safle’r ardd. Gall fod yn gyfeiriad preifat os ydych yn dymuno.
- Cyfeiriad a chod post llawn y safle arfaethedig.
- Enwau a manylion cyswllt dau berson gwahanol fydd yn gysylltiedig â chyflwyno’r prosiect y gall Cadwch Gymru’n Daclus gysylltu â nhw.
- What3words ar gyfer y safle arfaethedig what3words /// The simplest way to talk about location.
- Dau ffotograff diweddar, ac os yn bosibl, fideo, yn dangos y safle arfaethedig.
- Map o’r safle yn nodi ble bydd eitemau’r pecyn yn cael eu lleoli.
- Tystiolaeth o ganiatâd yr awdurdod lleol sy'n caniatáu gosod y berllan a chynnal a chadw'r berllan am o leiaf bum mlynedd. Bydd llythyr gan y pennaeth yn ddigonol.
- Amlinelliad byr o bwy fydd yn gysylltiedig ac yn cael budd o’r pecyn (yn cynnwys amcangyfrif o niferoedd), os bydd y grŵp yn llwyddiannus.
- Byddai’n fuddiol iawn i’ch cais pe byddech yn gallu dangos sut byddwch yn cynnwys cymunedau difreintiedig. – gweler Cwestiynau Cyffredin.
- Gwybodaeth am unrhyw fannau gwyrdd gerllaw
- Gwybodaeth am unrhyw gyllid blaenorol a dderbyniwyd ar gyfer gweithgareddau natur
- Ymrwymiad bod gennych o leiaf bum gwirfoddolwr a fydd yn gallu gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i osod y berllan.
Pan fyddwch yn barod i gyflwyno eich cais:
Gwnewch yn siŵr bod yr holl flychau priodol wedi cael eu ticio, yn cynnwys yr un sy’n ein galluogi ni i rannu eich manylion gyda’r panel er mwyn gallu prosesu eich cais.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, anfonwch ebost nature@keepwalestidy.cymru