• Noder, nid oes gweithred ‘arbed’ ar y ffurflen gais. Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth a’r dogfennau canlynol wrth law cyn i chi ddechrau. Gellir gweld rhagolwg o’r cwestiynau yn y Cwestiynau Cyffredin.

    Cyn i chi ddechrau bydd angen:

    • Lleoliad addas, a lle, ar gyfer y pecyn.
    • Gofod angenrheidiol i storio eitemau hyd at y dyddiad gosod a chyfeiriad dosbarthu addas.
      (i)Cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin am fanylion llawn a lluniau’r deunyddiau y bydd angen i chi eu storio. Mae’n rhaid i chi roi cyfeiriad sydd â digon o le. Ni ellir dosbarthu i leoliad heb rywun yno, a chi fydd yn gyfrifol am dderbyn nifer fawr o eitemau fydd yn cael eu dosbarthu. Dylai fod rhywun yn eich cyfeiriad dosbarthu yn ystod oriau gwaith o ddydd Llun i ddydd Gwener, dylai fod lle yno i storio’r holl eitemau am gyfnod o dri mis nes bod y prosiect wedi ei gwblhau, yn cynnwys storio eitemau mawr, ac mae’n rhaid iddo fod yn agos at safle’r ardd. Gall fod yn gyfeiriad preifat os ydych yn dymuno.
    • Cyfeiriad a chod post llawn y safle arfaethedig.
    • Enwau a manylion cyswllt dau berson gwahanol fydd yn gysylltiedig â chyflwyno’r prosiect y gall Cadwch Gymru’n Daclus gysylltu â nhw.
    • What3words ar gyfer y safle arfaethedig what3words /// The simplest way to talk about location.
    • Dau ffotograff diweddar, ac os yn bosibl, fideo, yn dangos y safle arfaethedig.
    • Map o’r safle yn nodi ble bydd eitemau’r pecyn yn cael eu lleoli.
    • Prawf o brydles pum mlynedd o leiaf ar gyfer y safle arfaethedig, neu brawf o ganiatâd perchennog y tir ar gyfer yr ardd newydd am bum mlynedd yn ogystal ag enw a manylion cyswllt perchennog y tir.
      (i)Bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth sydd yn datgan yn glir y bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel ased cymunedol am bum mlynedd o leiaf.
    • Os yw’r tir o dan berchnogaeth breifat, nid yw’n gymwys fel arfer – ond ceir eithriadau, e.e. prydles hirdymor i sefydliad cymunedol, neu yn y broses o gael ei brynu gan sefydliad cymwys
      (i)Os yw eich safle o dan berchnogaeth breifat, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig gan berchennog y tir o union fanylion y trefniant gyda’r ymgeisydd i’r panel eu hystyried.
    • Amlinelliad byr o bwy fydd yn gysylltiedig ac yn cael budd o’r pecyn (yn cynnwys amcangyfrif o niferoedd), os bydd y grŵp yn llwyddiannus.
    • Byddai’n fuddiol iawn i’ch cais pe byddech yn gallu dangos sut byddwch yn cynnwys cymunedau difreintiedig. – gweler Cwestiynau Cyffredin.
    • Y niferoedd bras fydd yn gallu mwynhau natur o ganlyniad i’r prosiect dros y pum mlynedd nesaf – e.e. defnyddiwch niferoedd ymwelwyr/defnyddwyr y safle, ystadegau poblogaeth lleol, maint ysgolion ac ati.
    • Gwybodaeth am unrhyw fannau gwyrdd gerllaw
    • Gwybodaeth am unrhyw gyllid blaenorol a dderbyniwyd ar gyfer gweithgareddau natur
    • Ymrwymiad bod gennych o leiaf pum gwirfoddolwr fydd yn gallu gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i osod yr ardd.

     

    Pan fyddwch yn barod i gyflwyno eich cais:

    Gwnewch yn siŵr bod yr holl flychau priodol wedi cael eu ticio, yn cynnwys yr un sy’n ein galluogi ni i rannu eich manylion gyda’r panel er mwyn gallu prosesu eich cais.

    Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, anfonwch ebost nature@keepwalestidy.cymru

  • Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

  • 1. Manylion y sefydliad

  • Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

  • 2. Manylion cyswllt

  • Prif Gyswllt

    Dylai un o’ch ddau gyswllt fod yn arweinydd y grŵp/pennaeth/aelod o’r bwrdd ac mae’n rhaid bod gennych yr awdurdod wedi ei ddirprwyo i allu gwneud y cais hwn ar ran y sefydliad.
  • Ail Gyswllt

    Mae’n RHAID i Awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a thebyg ychwanegu enw grŵp cymunedol lleol fydd yn gysylltiedig â gosod a gofalu am yr ardd. Dylai aelod o’r grŵp hwn fod yn ail gyswllt.
  • Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

  • 3. Pecynnau

  • Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

  • 4. Manylion y prosiect a’r safle

  • Ewch i www.what3words.com

  • Cliciwch yma i edrych drwy'r ffeiliau
    Drag and drop files here
    Choose a file
    Cancelof
  • Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

  • 5. Eich safle

  • Cliciwch yma i edrych drwy'r ffeiliau
    Drag and drop files here
    Choose a file
    Cancelof
  • Cliciwch yma i edrych drwy'r ffeiliau
    Drag and drop files here
    Choose a file
    Cancelof
  • 0/250
  • 0/500
  • 0/250
  • 0/500
  • Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

  • 6. Preifatrwydd

  • Bydd panel o arbenigwyr yn asesu pob cais. Bydd y panel yn cynnwys arweinwyr Llywodraeth Cymru, ecolegwyr, staff o sefydliadau arbenigol, a staff Cadwch Gymru’n Daclus (nad ydynt yn gysylltiedig â’r penderfyniadau terfynol).


    Os yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu rhannu â chyflenwyr a chwmnïau dosbarthu.

  • Fel rhan o amodau’r grant, rydych wedi cytuno i reoli’r safle am bum mlynedd, bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn cadw eich gwybodaeth am bum mlynedd er mwyn ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod y safle’n parhau i gael ei gynnal. Rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Chi sy’n rheoli’r sefyllfa bob amser.

    Am fwy o wybodaeth ewch i’n Polisi Preifatrwydd

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Leoedd Lleol ar gyfer Natur, cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru

  • Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

  • 7. Cyflwyno

  • Trwy gyflwyno’r cais hwn, rydych yn cytuno:

    • I ddechrau’r prosiect o fewn mis o ddyddiad y llythyr cynnig a chwblhau’r gwaith gosod dri mis ar ôl hynny.
    • Eich bod wedi cael caniatâd perchennog y tir am isafswm o bum mlynedd.
    • Nad yw’r prosiect yn dyblygu gwaith a ariannwyd yn flaenorol gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (Cadwch Gymru’n Daclus, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol neu gyllid partneriaeth Natur Lleol).
    • I gynnal y safle am isafswm o bum mlynedd.
    • Bod y safle yn hygyrch i gerbydau mawr i ddosbarthu deunyddiau, ac y byddwch ar gael i dderbyn yr eitemau sy’n cael eu dosbarthu i’r safle, a sicrhau eu bod yn ddiogel nes bod eu hangen.
    • I waredu’r holl wastraff dosbarthu yn gyfrifol e.e. paledi, bagiau adeiladwyr a chardfwrdd.
    • Cynnwys tîm o 5 gwirfoddolwr o leiaf fydd yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i greu’r ardd natur newydd hon
    • I roi dyfyniadau, lluniau a data monitro (e.e. nifer y gwirfoddolwyr) i Cadwch Gymru’n Daclus eu defnyddio mewn adroddiadau a chyhoeddusrwydd prosiectau.
    • I roi cyhoeddusrwydd i’r prosiect gan ddefnyddio templedi’r cyfryngau a ddarperir gan Cadwch Gymru’n Daclus.

    Cliciwch i ddewis cyflwyno os ydych wedi ateb yr holl gwestiynau ar y ffurflen gais a chytuno i’r datganiadau uchod.

     

  • Should be Empty: